Wales/Cymru
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
'Sdim Curo Plant!
Children are Unbeatable! Cymru
Cynghrair o sefydliadau sy'n ceisio diwygio'r gyfraith i rhoi'r un amddiffyniad i blant ag sydd gan oedolion rhag ymosodiad a hyrwyddo disgyblaeth gadarnhaol di-drais
An alliance of organisations seeking legal reform to give children the same protection under the law on assault as adults and promoting positive non-violent discipline
CYLCHLYTHYR RHIF 1
IONAWR 2002
Ffurfiwyd cynghrair Children are Unbeatable! i ymgyrchu i roi'r un amddiffyniad i blant ag i oedolion dan y gyfraith ar ymosodiad, ac i hyrwyddo disgyblaeth gadarnhaol ddi-drais. Mae'n cynnwys dros 300 o sefydliadau iechyd plant, gofal, lles, atal troseddu ac eglwysi ledled y Deyrnas Gyfunol. Maent yn cynnwys pedwar Coleg Iechyd, Parentline a'r Eglwysi Diwygiedig Unedig. Mae dros 400 o unigolion adnabyddus yn cynnwys arbenigwyr cyfreithiol, newyddiadurwyr, arbenigwyr gofal plant a phobl amlwg yn cefnogi'r Gynghrair.
Lansiwyd 'Sdim Curo Plant!/Children are Unbeatable! Cymru ym mis Medi 2000 i gydlynu a hyrwyddo'r ymgyrch yng Nghymru. Mae'r grwp strategaeth yn cynnwys cynrychiolwyr Achub y Plant, NSPCC, Barnado's, Cymdeithas Genedlaethol Gofalwyr Plant, y Coleg Brenhinol Pediatreg a Iechyd Plant a Phlant yng Nghymru. Mae hwn yn gylchlythyr cyntaf ar gyfer cefnogwyr yr ymgyrch ac eraill sydd â'r diddordeb. Bwriadwn gyhoeddi rhifynnau pellach. Cysylltwch â'n cydlynydd prosiect os hoffech dderbyn copi yn y dyfodol - gwelwch penodi Cydlynydd Cymru islaw.
San Steffan yn methu gweithredu i amddiffyn plant yng Nghymru a Lloegr
Cyhoeddodd y Llywodraeth o'r diwedd ar 8 Tachwedd nad yw'n mynd i wneud unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth i amddiffyn plant rhag ymosodiad corfforol, gan wneud dim ond parhau i adolygu'r amddiffyniad o "cosb resymol" (gweler www.doh.gov.uk). Cafodd y diffyg gweithredu hwn ei gondemnio ar unwaith gan 'Sdim Curo Plant, a llawer o sefydliadau plant blaenllaw, fel cyfle a gollwyd a methiant arweinyddiaeth a dewrder moesol ar ran y llywodraeth.
Cyfaddefodd y llywodraeth fod bron yr holl sefydliadau oedd wedi ymateb i'w ddogfen ymgynghor Protecting Children, Supporting Parents, yn gwrthwynebu pob cosbi corfforol ar blant, ond dewisodd bwysleisio fod 70% o'r unigolion a ymatebodd o blaid cadw'r sefyllfa bresennol.
Mae penderfyniad San Steffan yn effeithio'n uniongyrchol ar blant Cymru oherwydd nid yw hwn yn faes cyfrifoldeb a ddatganolwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol. Yn yr Alban mae'r Weinyddiaeth yn cynnig gwahardd cosbi corfforol ar blant dan 3 oed a gwahardd ysgwyd, taro'r pen a defnyddio dyfeisiau i gosbi pob plentyn. Mae Gogledd Iwerddon wedi lansio ymgynghoriad trugarog a chynhwysfawr iawn ar wahanol ospiynau yn cynnwys gwaharddiad llwyr. (Crynodeb ar gael gan Office of Law Reform 028 90542900 ar www.olrni.gov.uk)
Mae 'Sdim Curo Plant! yn galw am lythyrau byr o brotest i'ch A.S. a Gweinidog y Llywodraeth yn gyfrifol am y penderfyniad, sef Jacqui Smith, Minister of State for Health, Richmond House, 79 Whitehall, Llundain SW1A 2NS, E-bost: dhmail@doh.gsi.gov.uk
Mae 'SDP/CAU! Cymru yn ysgrifennu at Jane Hutt A.C., Gweinidog Plant yn y Cynulliad Cenedlaethol, i fynegi ein siom fawr ac i ofyn sut y gall hi a'r Cynulliad ddodi pwysau ar y Llywodraeth i ailystyried gwaharddiad llwyr ar gosbi plant yn gorfforol. Rydym hefyd yn gofyn i Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru, i roi pwysau ar y Cynulliad i sicrhau fod amddiffyniad digonol ar gyfer hawliau plant yng Nghymru. Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn anfon llythyrau at Jane Hutt, y Comisiynydd Plant a'ch Aelodau Cynulliad lleol yn cefnogi safbwynt is 'SDP!/CAU! Cymru. D.S Anfonwch gopi o'ch llythyrau atom ninnau hefyd os gwelwch yn dda!
Penodi Cydlynydd Cymru
O fis Ionawr 2002, bydd Jill Taylor yn gweithio am 2 ddiwrnod yr wythnos i 'Sdim Curo Plant! Bydd Jill yn gweithio'n rhannol o gartref ac yn rhannol o swyddfa Plant yng Nghymru. "Byddaf yn gweithio gyda Grwp Strategaeth Cymru i gynnal trafodaeth iach ac agored am yr holl fater" meddai Jill. "Rydym yn anelu i gael aelodaeth luosog a gwybodus yng Nghymru fydd yn cynnwys plant a phobl ifanc. Rydym eisiau bod yn sefydliad sy'n hyrwyddo hawliau plant, yn cefnogi rhieni ac yn gwrando ar beth sydd gan pobl i'w ddweud."
Os hoffech chi neu'ch sefydliad gymryd rhan yn yr ymgyrhc, neu os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â Jill yn y Flwyddyn Newydd yn 'Sdim Curo Plant!, d/o Plant yng Nghymru, 25 Plas Windsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn: 02920342434neu Ffôn/Ffacs :01443 479547, E-bost: jill.taylor@childrenareunbeatable.fsnet.co.uk
Cynhadledd Cefnogwyr 'Sdim Curo Plant!
Dydd Mercher 9 Ioanwr 2002 10.30 a.m. to 4.30p.m.
Abbey Community Centre, 34 Great Smith Street, Llundain SW1
Cynhadledd un-dydd i roi'r newyddion diweddaraf i gefnogwyr ar gynnydd tuag at gyflawni ein nod ledled Prydain ac i gronni syniadau ar gyfer cynyddu dylanwad y Gynghrair yn y cyfnod hollbwysig o'n blaenau. mae'r rhaglen yn cynnwys: diweddariadau ar y sefyllfa yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, cyflwyniad gan Rwydwaith Plant Pobl Ifanc, ymchwil a gweithdai ymarferol.
Croeso i bawb! Dim ond £20.00 yperson
I gadw lle cysyllter â CAU!, 77 Holloway Rd, Llundain N7 8JZ, Ffôn: 02077000627 Ffacs: 02077001105, E-bost: info@endcorporalpunishment.org
Safonau Gofalwyr Plant yng Nghymru
Mae 'SCP!/CAU! Cymru yn falch iawn fod y Cynulliad wedi cynnig na ddylai gofalwyr plant byth ysgwyd, taro neu fychanu plant ac wedi cymryd agwedd wahanol i San Steffan ar y mater hollbwysig hwn. Mae Cymdeithas Genedlaethol Gofalwyr Plant yn cefnogi safiad y Cynulliad. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoraid diweddar ar ay cynigion yn cael eu dadansoddi. Caiff rheoliadau a safonau newydd eu drafftio i fynd i'r Cynulliad ym mis Chwefror i gael cadarnhad terfynol.
Sut i ymuno â 'Sdim Curo Plant!
Os hoffai'ch sefydliad a/neu chi yn unigol gofrestru a chael eich rhestru fel aelod o 'Sdim Curo Plant! medrwn anfon cop•au o'n datganiad atoch i'w lofnodi.
Gobeithiwn gyhoeddi rhestr o gefnogwyr yng Nghymru yn y gwanwyn. Os oes gennych gysylltiadau gyda phobl adnabyddus a fyddai'n cefnogi'r ymgyrch, gofynnwch iddynt ymuno a gadael i ni wybod!
I gael ffurflenni, cysylltwch â Louise Harries yn Plant yng Nghymru, 25 Plas Windsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn 02920342434, E-bost louise.harries@childreninwales7.fsnet.co.uk










